Bydd GRRAIN yn lledaenu gwybodaeth academaidd a gwasanaethau masnachol i’r gymuned wledig mewn partneriaeth ag arbenigedd menter ac entrepreneuriaeth o’r Brifysgol.


Ysgol Fusnes Aberystwyth

Bydd yr entrepreneuriaeth wledig GRRaIN yn darparu cyfleoedd i YFA arddangos ei ymchwil a ddarperir trwy ddwy ganolfan ymchwil, y Ganolfan Menter Leol a Rhanbarthol (CLARE) a’r Ganolfan Cymdeithasau Cyfrifol (CRiSis). Bydd effeithiolrwydd y gyfres seminarau CLARE yn cael ei wella gan GRRaIN. Yn ogystal, bydd ‘PGcert in Change Leadership’ YFA a ddarperir trwy Menter a Busnes yn elwa o rwydweithiau GRRaIN. Bydd cyfleoedd i fyfyrwyr ar y llwybr proffesiynol sydd newydd ei sefydlu ac ar gyfer gweithgareddau menter myfyrwyr. Mae cyfleoedd hefyd ar gyfer KTPau Rheoli a allai ddeillio o’r cydweithredu hwn.

Dysgu o Bell IBERS

Gallu craidd tîm Dysgu o Bell IBERS yw syntheseiddio’r canfyddiadau ymchwil diweddaraf ac addasu a chyflwyno’r rhain yn y modd mwyaf priodol i anghenion diwydiant. Mae gan academyddion o fewn y tîm gefndiroedd mewn: amaethyddiaeth da byw, garddwriaeth, agro-ecoleg, biotechnoleg, gwyddor bwyd, ecoleg, geneteg, epigenetics, rheolaeth amgylcheddol, gwyddor pridd, biocemeg, dadansoddi data, genomeg foleciwlaidd, biowybodeg ac amaeth-dechnoleg. Bydd GRRaIN yn hwyluso datblygiad hyfforddiant wedi ei deilwra (ar-lein neu mewn gweithdy), sesiynau briffio technegol, ac ymatebion cyfnewid gwybodaeth trwy dîm Dysgu o Bell IBERS. Bydd galluoedd amlgyfrwng Dysgu o Bell IBERS yn golygu y gellir addasu negeseuon KE i lu o fformatau. Mae manteision amlwg i uwchsgilio busnesau bach a chanolig a gwella gwytnwch busnes.

Gwasanaeth Gyrfaoedd

Defnyddir GRRaIN fel sianel ychwanegol i hyrwyddo dwy brif swyddogaeth y Gwasanaeth Gyrfaoedd:

Cefnogaeth i fyfyrwyr, graddedigion, staff ac eraill sy’n sefydlu mentrau busnes a mentrau cymdeithasol newydd:

  • Gweithdai sgiliau cychwyn
  • Cyflwyno modelau rôl entrepreneuraidd ysbrydoledig
  • Mentora un i un
  • Cystadleuaeth Flynyddol syniadau ‘InvEnterPrize’ i fyfyrwyr
  • Wythnos Cychwyn Busnes blynyddol
  • Gweithgaredd wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang
  • Lle ar gyfer cychwyn busnes

Ymgorffori Sgiliau ‘EntreComp’ (cymwyseddau entrepreneuraidd) mewn cwricwla, ledled y Brifysgol:

  • Cynnwys ein rhwydwaith o ACEs (Hyrwyddwyr Menter Academaidd)
  • Gweithgareddau entrepreneuraidd yn rhan o fodiwlau
  • Bydd hyrwyddo ‘Intrapreneurship’ a’r cystadlaethau menter myfyrwyr “Enterprising Mind-set” yn cael eu bathu o dan GRRaIN a bydd cefnogaeth ar gyfer cefnogi cychwyn busnes i fyfyrwyr a graddedigion, busnesau bach a chanolig ac Ymgysylltu â Chyflogwyr.