Ein Cenhadaeth
Nod y Rhwydwaith Twf, Cydnerthedd ac Arloesi Gwledig (GRRaIN) yw dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer datblygu entrepreneuraeth mewn ardaloedd gwledig sy’n ymroi i ddatblygu strategaethau arloesol ac atebion ymarferol sy’n mynd i’r afael â heriau busnesau newydd, menter ac entrepreneriaeth. Bydd GRRaIN yn lledaenu gwybodaeth, atebion a strategaethau newydd sy’n deillio o ymchwil ac yn darparu rhwydwaith gwerthfawr i’r gymuned fusnes wledig.
Ein Nodau
Nod GRRaIN yw:
- Darparu’r rhaglenni gwybodaeth a chymorth masnachol o ansawdd uchel (KTPs, KEPs, WBL ac ati) i fentrau gwledig i dyfu a ddatblygu.
- Adeiladu enw da yn rhyngwladol am gysylltu a llywio mentrau gwledig ac entrepreneuriaid gwledig.
Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, bydd y GRRaIN yn datblygu nifer o alluogwyr allweddol. Y galluogwyr hyn yw:
- Galluogwr 1: Datblygu gallu staff Prifysgol Aberystwyth i rannu ymchwil o ansawdd uchel a hwyluso cyfnewid gwybodaeth sy’n cyfrannu at anghenion mentrau gwledig.
- Galluogwr 2: Darparu cyswllt ymarferol cadarnhaol i fentrau gwledig gyrraedd arbenigedd ymchwil sy’n bodloni gofynion eu sefydliadau, yr economi wledig a Llywodraeth Cymru, drwy hwyluso mynediad i fyfyrwyr, graddedigion, staff a’r gymuned leol sydd â diddordeb brwd mewn dechrau busnes ac entrepreneuraeth.
- Galluogwr 3: Darparu graddedigion gwybodus a hyfforddedig i’r economi wledig