Mae project BioArloesedd Cymru yn cynnig ei semester olaf o fodiwlau ar-lein AM DDIM i bobl sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Cafodd y modiwlau hyn eu creu i gynorthwyo busnesau bwyd-amaeth yng Nghymru i ddechrau ymgorffori meddylfryd Economi Gylchol i’w harferion busnes.

Meddai Elan Davies, myfyrwraig sy’n swyddog technegol cig coch i’r prosiect Cyswllt Ffermio:
Rydw i wastad yn edrych am gyfle i ddatblygu fy ngwybodaeth ymhellach, ac rwy’n ffodus iawn i fod yn gweithio i gwmni sy’n ein hannog i wneud hynny hefyd. Yn fy swydd o ddydd i ddydd mae gweithio gyda ffermwyr blaengar sy’n meddwl ymlaen yn golygu bod rhaid i mi wybod am y datblygiadau a’r ymchwil diweddaraf yn y diwydiant; mae dilyn y modiwlau BioArloesedd yn fy helpu yn hyn o beth.
Mae BioArloesedd yn agored i unrhyw un yng Nghymru sydd â gradd neu brofiad perthnasol. Ond, mae croeso i bobl gymryd modiwl hyd yn oed os nad oes ganddynt un o’r ddau, dim ond i gael y mwynhad o ddysgu! Gallant ddewis gwneud aseiniadau neu beidio; ac os byddant yn cwblhau’r aseiniadau’n llwyddiannus ac eisiau symud ymlaen mae ganddynt gyfle i gael eu derbyn ar y rhaglen Meistr.
Rhagor o wybodaeth
Ceir rhagor o fanylion ar-lein am y cyrsiau sydd ar gael gan BioArloesedd yn: https://bioinnovationwales
Ffôn: 01970 823224
E-bost: BioInno@aber.ac.uk