Cyfweliad gyda milfeddyg da byw â thros 20 mlynedd o brofiad sy’n dilyn cyrsiau BioArloesedd


Milfeddyg da byw ym Mhowys yw Kate Hovers. Mae’n 61 oed ac wedi gweithio mewn practis cymysg ers dros 20 mlynedd, ond bellach mae ganddi nifer o rolau, yn cynnwys:

Cawsom sgwrs gyda Kate i holi pam ei bod wedi penderfynu astudio gyda BioArloesedd, y manteision a’r anfanteision a beth mae wedi’i ddysgu i’w helpu yn ei rolau presennol. Ers hynny, mae Kate wedi gwneud cais i ymgymryd ag MRes (Meistr Ymchwil).


Pam benderfynoch chi ddilyn cyrsiau BioArloesedd?

‘Gwelais i’r cyrsiau BioArloesedd yn cael eu hysbysebu a meddwl y byddwn i’n hoffi gwneud rhywbeth mwy academaidd. Mae diddordeb wedi bod gen i erioed mewn ymchwil ac ar hyn o bryd rwy’n ymwneud â thri phrosiect ymchwil Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd. Er nad oeddwn i’n dymuno ehangu fy ngyrfa, roeddwn i’n edrych ymlaen at gyflawni astudiaethau academaidd ac roedd y modiwlau fel pe baen nhw’n berthnasol i fy ngwaith.

Fy modiwl cyntaf oedd Newid Ymddygiad a doeddwn i’n gwybod fawr ddim am y pwnc. Rwy’n credu bod hwn yn bwnc pwysig i bawb. I fi fel milfeddyg, roedd yn arbennig o ddefnyddiol i ddeall sut i ymgysylltu â ffermwyr ac fe helpodd fi i ddeall pam fy mod yn ymddwyn fel ydw i. Fe ysbrydolodd fi i ddilyn rhagor o fodiwlau ac ymrwymo i brosiect ymchwil.’ Aeth Kate yn ei blaen i astudio Asesu Cylch OesNwyddau Cyhoeddus a Da Byw Trachywir.

Beth oeddech chi’n ei ddisgwyl wrth fynd ati i ddysgu o bell?

‘Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Roeddwn i’n pryderu braidd am fy nghyswllt band eang am fy mod yn byw ar fferm ac ambell waith mae’n anodd ffrydio ffilmiau, ond dyw hynny ddim wedi bod yn broblem gyda darlithoedd. Roeddwn i’n poeni am ddarllen papurau ar-lein hefyd, ond rwyf i wedi arfer â hynny erbyn hyn’. Mae Kate bellach ar ei phumed modiwl, a dim ond 3 sydd eu hangen arni ar gyfer yr MRes!

Sut oedd y profiad? Y da a’r drwg!

Rwy’n mwynhau’r mynediad at bapurau academaidd rwy’n ei gael fel myfyriwr. Fe ges i drafferth gyda’r aseiniad cyntaf gan nad oeddwn i wedi gwneud unrhyw waith academaidd ers y 90au – a doedd gan neb gyfrifiadur pan wnes i fy ngradd, felly mae’n ffordd wahanol iawn o astudio. I fi, mae cwblhau aseiniad yn foddhaus iawn ac mae wedi aildanio fy mrwdfrydedd dros weddill fy ngwaith.

Pa mor addas yw’r fformat i bobl sy’n gweithio, yn eich barn chi?

‘Mae’r fformat yn addas iawn [i gyd-fynd â gwaith] gan fod myfyrwyr yn gallu dewis faint o waith i’w wneud. Yn amlwg os ydych chi am weithio at gymhwyster, mae angen i chi neilltuo amser bob wythnos. Fel arfer rwy’n treulio dau brynhawn ac un noswaith bob wythnos yn astudio. Mae’n wych achos gallwch chi ddewis pryd i astudio.’

Beth (os unrhyw beth) ydych chi wedi’i ddysgu sy’n ddefnyddiol yn eich rôl bresennol?

‘Mae’r modiwl Nwyddau Cyhoeddus wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn fy ngwaith gyda’r NSA ac wrth ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar bolisi’n ymwneud â ffermydd mynydd. Rwyf i wedi defnyddio rhywfaint o’r hyn a ddysgais ar y modiwl Da Byw Trachywir i hyfforddi milfeddygon defaid eraill ac mae’r technegau a ddysgais i yn y modiwl Newid Ymddygiad yn ddefnyddiol yn fy ngwaith drwyddi draw.’

Soniwch am eich syniadau ymchwil – Pa fath o effaith ydych chi’n rhagweld y bydd yn ei gael? 

‘Mae gen i lawer o syniadau, ffyrdd i wella iechyd a lles ŵyn gan fwyaf: un yw edrych ar pam fod Arthritis septig [clefyd mewn ŵyn sy’n gallu eu gadael yn gloff yn barhaol] yn digwydd mewn rhai ffermydd ond nid eraill. Dydyn ni ddim yn gwybod llawer am y ffactorau risg ar gyfer y clefyd felly gallai gwell dealltwriaeth fod yn gymorth gwirioneddol i wella iechyd a lles ŵyn.’Bydd Kate yn dechrau ar y modiwl Dulliau Ymchwil ym mis Medi pan fydd yn datblygu cynnig cadarn.


Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o fanylion am gyrsiau BioArloesedd arlein: https://bioinnovationwales 

Rhif ffôn: 01970 823224 

Ebost: BioInno@aber.ac.uk