Un o raddedigion ‘Y Gorau o Gymru’ Aber yn mynd ati i helpu busnesau bwyd Cymru

Megi Williams wobr ‘Y Gorau o Gymru‘ yn y 2015 seremoni raddio.

Mae un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi ennill gwobrau lawer, wedi ymuno â menter bwysig i gefnogi busnesau bwyd Cymru. 

Mae Megi Williams, a enillodd radd Busnes a Rheolaeth yn 2015, ynghyd â gwobr ‘Y Gorau o Gymru’ am ei gwaith fel myfyriwr cyfrwng Cymraeg, wedi ymuno â Cywain fel eu Prif Swyddog Gweithredol. 

Mae Cywain, sy’n wasanaeth a ddarperir gan y cwmni datblygu economaidd annibynnol Menter a Busnes, yn cefnogi busnesau bwyd Cymru i dyfu drwy ddarparu cymorth uniongyrchol, mae’n eu helpu i wella’u gwybodaeth a’u sgiliau busnes ac mae’n cynnig cyfleoedd i gydweithio â busnesau eraill. 

Mae’n bleser mawr gen i ymuno â thîm Cywain ar adeg mor bwysig pan fo cynifer o fusnesau yn awyddus ailgodi yn sgil pandemig COVID-19, ac edrychaf ymlaen yn arw at greu cysylltiadau a helpu busnesau bwyd a diod Cymru.  

Megi Williams

Cafodd Megi, sy’n wreiddiol o Aberdaron yn Llŷn, ei hysbrydoli i ddilyn gyrfa ym myd busnes tra oedd yn astudio Busnes Safon Uwch yng Ngholeg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli. 

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, dewisodd Megi ddilyn cyfran sylweddol o’i gradd israddedig drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Ar ddiwrnod seremoni raddio Megi, cyflwynwyd gwobr ‘Y Gorau o Gymru’ iddi. Noddwyd y wobr hon gan asiantaeth bythynnod gwyliau ‘Y Gorau o Gymru’ ac fe’i cyflwynwyd iddi am ragoriaeth ym maes astudiaethau busnes drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ychwanegai Megi: “Mae astudio Busnes a Rheolaeth wedi rhoi sylfaeni rhagorol imi a dealltwriaeth gadarn am fyd busnes. Mae hyn oll yn ddelfrydol i’m swydd gyda Cywain. Roedd cefnogaeth y staff a’r Ysgol Fusnes yn rhagorol, ac roedd yr amgylchfyd astudio a holl naws y campws yn wych. Roeddwn yn arbennig o hoff o elfennau marchnata’r cwrs, am fod marchnata yn bwnc sy’n fy niddori’n fawr. Roedd gallu parhau â’m hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg hefyd yn wych am fod cymaint o’r hyn a wnaf bob dydd yn gofyn am y ddwy iaith”.

“Mwynheais yr agwedd gymdeithasol ar fyw ac astudio yn Aberystwyth hefyd. Roeddwn yn rhan o’r gymuned Gymraeg a oedd yn gysylltiedig ag UMCA. Drwy hynny, fe gymeron ni ran mewn llu o weithgareddau, gan gynnwys ‘dilyn’ Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i’r Alban a Ffrainc. Roedd y teithiau hyn yn wastad yn andros o hwyl”.  

Mae Dr Wyn Morris, Uwch Ddarlithydd Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, wedi llongyfarch Megi ar ei phenodiad diweddar.  Meddai Dr Morris: “Rydym wrth ein boddau bod Megi wedi cael swydd gyda Menter a Busnes.  Roedd Megi yn fyfyrwraig ragorol, ac astudiodd gyfran helaeth o’i chwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’n galondid mawr gweld ein myfyrwyr yn mynd yn eu blaenau i swyddi mor amlwg, a dymunaf yn dda i Megi yn ei swydd newydd. Edrychaf ymlaen at gydweithio â hi ac at gefnogi Cywain”.  


Rhagor o wybodaeth

Cewch ragor o wybodaeth am gyrsiau busnes israddedig Ysgol Fusnes Aberystwyth ar-lein: https://www.aber.ac.uk/cy/abs/studywithus/undergraduate/

Cewch ddysgu am y ddarpariaeth Gymraeg yma: https://www.aber.ac.uk/cy/abs/studywithus/undergraduate/welsh-medium/

Megi Williams, E-bost: megi.williams@menterabusnes.co.uk, ffôn: +44 (0)7983 885385

Cywain: https://menterabusnes.cymru/cywain/

Menter a Busnes: https://menterabusnes.cymru/ Ffôn: +44 (0)1970 636 565 E-bost: aberystwyth@Menterabusnes.co.uk

Ysgol Fusnes Aberystwyth: https://www.aber.ac.uk/cy/abs/ Derbyn Myfyrwyr: +44 (0)1970 622021 E-bost: abs-enquiries@aber.ac.uk